Hen Destament

Testament Newydd

Job 5:5-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef,ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain;ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.

6. Canys nid o'r pridd y daw gofid,nac o'r ddaear orthrymder;

7. ond genir dynion i orthrymder,cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.

8. “Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i,a gosod fy achos o'i flaen ef,

9. yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,rhyfeddodau dirifedi.

10. Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear,a'r dyfroedd ar y meysydd.

11. Y mae'n codi'r rhai isel i fyny,a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.

12. Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys;ni all eu dwylo wneud dim o fudd.

13. Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra,a buan y diflanna cynllun y dichellgar.

14. Brwydrant â thywyllwch hyd yn oed liw dydd,ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.

15. Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael,a'r truan o afael y cryf.

16. Am hynny y mae gobaith i'r tlawd,ac anghyfiawnder yn cau ei safn.

17. “Dedwydd y sawl a gerydda Duw,ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.

18. Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur;ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.

19. Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder;ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.

20. Fe'th achub di rhag marw mewn newyn,a rhag y cleddyf mewn brwydr.

Darllenwch bennod gyflawn Job 5