Hen Destament

Testament Newydd

Job 5:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Galw'n awr; a oes rhywun a'th etyb?At ba un o'r rhai sanctaidd y gelli droi?

2. Y mae dicter yn lladd yr ynfyd,a chenfigen yn dwyn angau i'r ffôl.

3. Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd,ond ar fyrder melltithiwyd ei drigfan;

4. ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared,wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub.

Darllenwch bennod gyflawn Job 5