4. Y mae eu llydnod yn cryfhau ac yn prifio yn y maes,yn mynd ymaith, ac ni ddônt yn ôl.
5. “Pwy sy'n rhoi ei ryddid i'r asyn gwyllt,ac yn datod rhwymau'r asyn cyflym
6. y rhoddais yr anialdir yn gynefin iddo,a thir diffaith yn lle iddo fyw?
7. Y mae'n gas ganddo sŵn y dref;y mae'n fyddar i floeddiadau gyrrwr.
8. Crwydra'r mynyddoedd am borfa,a chwilia am bob blewyn glas.
9. “A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth,a threulio'r nos wrth dy breseb?
10. A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych,neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy ôl?
11. A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf?A adewi dy lafur iddo?
12. A ymddiriedi ynddo i ddod â'th rawn yn ôl,a'i gasglu i'th lawr dyrnu?