Hen Destament

Testament Newydd

Job 39:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “A wyddost ti amser llydnu ygeifr gwylltion?A fuost ti'n gwylio'r ewigod yn esgor,

2. yn cyfrif y misoedd a gyflawnantac yn gwybod amser eu llydnu?

3. Y maent yn crymu i eni eu llydnod,ac yn bwrw eu brych.

4. Y mae eu llydnod yn cryfhau ac yn prifio yn y maes,yn mynd ymaith, ac ni ddônt yn ôl.

5. “Pwy sy'n rhoi ei ryddid i'r asyn gwyllt,ac yn datod rhwymau'r asyn cyflym

6. y rhoddais yr anialdir yn gynefin iddo,a thir diffaith yn lle iddo fyw?

7. Y mae'n gas ganddo sŵn y dref;y mae'n fyddar i floeddiadau gyrrwr.

8. Crwydra'r mynyddoedd am borfa,a chwilia am bob blewyn glas.

9. “A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth,a threulio'r nos wrth dy breseb?

10. A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych,neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy ôl?

11. A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf?A adewi dy lafur iddo?

Darllenwch bennod gyflawn Job 39