7. Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau,a'r holl angylion yn gorfoleddu,
8. pan gaewyd ar y môr â dorau,pan lamai allan o'r groth,
9. pan osodais gwmwl yn wisg amdano,a'r caddug yn rhwymyn iddo,
10. a phan drefnais derfyn iddo,a gosod barrau a dorau,
11. a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach,ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’?
12. “A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y borea dangos ei lle i'r wawr,
13. er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear,i ysgwyd y drygionus ohoni?
14. Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl,ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn.
15. Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus,a thorrir y fraich ddyrchafedig.
16. “A fedri di fynd at ffynhonnell y môr,neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder?
17. A agorwyd pyrth angau i ti,neu a welaist ti byrth y fagddu?
18. A fedri di ddirnad maint y ddaear?Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd.
19. “Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni,ac i le tywyllwch,
20. fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn,a gwybod y llwybr i'w thÅ·?