Hen Destament

Testament Newydd

Job 35:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. “Pan waedda pobl dan faich gorthrwm,a llefain am waredigaeth o afael y mawrion,

10. ni ddywed neb, ‘Ble mae Duw, fy ngwneuthurwr,a rydd destun cân yn y nos,

11. ac a'n gwna'n fwy deallus na'r anifeiliaid gwylltion,ac yn fwy doeth nag adar yr awyr?’

12. Felly, er iddynt weiddi, nid etyb ef,o achos balchder y drygionus.

13. Ofer yn wir! Nid yw Duw'n gwrando arno,ac nid yw'r Hollalluog yn cymryd sylw ohono.

14. Nac ychwaith ohonot tithau pan ddywedi nad wyt yn ei weld,a bod yr achos o'i flaen, a'th fod yn dal i ddisgwyl wrtho.

15. Ond yn awr, am nad yw ef yn cosbi yn ei ddig,ac nad yw'n sylwi'n fanwl ar gamwedd,

16. fe lefarodd Job yn ynfyd,ac amlhau geiriau heb ddeall.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 35