1. Dywedodd Elihu:
2. “A gredi di fod hyn yn iawn?A wyt ti'n honni bod yn gyfiawn o flaen Duw,
3. a thithau'n dweud, ‘Pa werth ydyw i ti,neu pa fantais i mi fy hun fod heb bechu?’
4. Fe roddaf fi'r ateb iti,a hefyd i'th gyfeillion.
5. Edrych ar yr awyr, ac ystyria,a sylwa ar y cymylau sydd uwch dy ben.
6. Os pechaist, pa wahaniaeth yw iddo ef?Ac os amlha dy droseddau, beth a wna hynny iddo ef?
7. Os wyt yn gyfiawn, beth yw'r fantais iddo ef,neu beth a dderbyn ef o'th law?
8. Â meidrolion fel ti y mae a wnelo dy ddrygioni,ac â phobl y mae a wnelo dy gyfiawnder.
9. “Pan waedda pobl dan faich gorthrwm,a llefain am waredigaeth o afael y mawrion,
10. ni ddywed neb, ‘Ble mae Duw, fy ngwneuthurwr,a rydd destun cân yn y nos,
11. ac a'n gwna'n fwy deallus na'r anifeiliaid gwylltion,ac yn fwy doeth nag adar yr awyr?’