Hen Destament

Testament Newydd

Job 33:2-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Dyma fi'n agor fy ngwefusau,a'm tafod yn llefaru yn fy ngenau.

3. Y mae fy ngeiriau'n mynegi fy meddwl yn onest,a'm gwefusau wybodaeth yn ddiffuant.

4. Ysbryd Duw a'm lluniodd,ac anadl yr Hollalluog a'm ceidw'n fyw.

5. Ateb fi, os medri;trefna dy achos, a saf o'm blaen.

6. Ystyria, o flaen Duw yr wyf finnau yr un fath â thithau;o glai y'm lluniwyd innau hefyd.

7. Ni ddylai arswyd rhagof fi dy barlysu;ni fyddaf yn llawdrwm arnat.

8. “Yn wir, dywedaist yn fy nghlyw,a chlywais innau dy eiriau'n glir:

9. ‘Rwy'n lân, heb drosedd;rwy'n bur heb gamwedd.

10. Ond y mae Duw yn codi cwynion yn fy erbyn,ac yn f'ystyried yn elyn iddo,

11. yn gosod fy nhraed mewn cyffion,ac yn gwylio fy holl ffyrdd.’

12. “Nid wyt yn iawn yn hyn, a dyma f'ateb iti:Y mae Duw yn fwy na meidrolyn.

13. Pam yr wyt yn ymgecru ag ef,oherwydd nid oes ateb i'r un o'i eiriau?

14. Mae Duw yn llefaru unwaith ac eilwaith,ond nid oes neb yn cymryd sylw.

15. Mewn breuddwyd, mewn gweledigaeth nos,pan ddaw trymgwsg ar bobl,pan gysgant yn eu gwelyau,

16. yna fe wna iddynt wrando,a'u dychryn â rhybuddion,

17. i droi rhywun oddi wrth ei weithred,a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho,

Darllenwch bennod gyflawn Job 33