Hen Destament

Testament Newydd

Job 33:16-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. yna fe wna iddynt wrando,a'u dychryn â rhybuddion,

17. i droi rhywun oddi wrth ei weithred,a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho,

18. a gwaredu ei einioes rhag y pwll,a'i fywyd rhag croesi afon angau.

19. “Fe'i disgyblir ar ei orweddâ chryndod di-baid yn ei esgyrn;

20. y mae bwyd yn ffiaidd ganddo,ac nid oes arno chwant am damaid blasus;

21. nycha'i gnawd o flaen fy llygad,a daw'r esgyrn, na welid gynt, i'r amlwg;

22. y mae ei einioes ar ymyl y pwll,a'i fywyd ger mangre'r meirw.

23. Os oes angel i sefyll drosto—un o blith mil i gyfrynguac i ddadlau ei hawl drosto,

24. a thrugarhau wrtho gan ddweud,‘Achub ef rhag mynd i'r pwll;y mae pris ei ryddid gennyf fi’—

25. yna bydd ei gnawd yn iachach nag erioed,wedi ei adfer fel yr oedd yn nyddiau ei ieuenctid.

26. Bydd yn gweddïo ar Dduw, ac yntau'n ei wrando;bydd yn edrych ar ei wyneb mewn llawenydd,gan ddweud wrth eraill am ei gyfiawnhad

27. a chanu yn eu gŵydd, a dweud,‘Pechais, gan droi oddi wrth uniondeb,ond ni chyfrifwyd hyn yn f'erbyn;

28. gwaredodd f'einioes rhag mynd i'r pwll,ac fe wêl fy mywyd oleuni.’

29. “Gwna Duw hyn i gyd i feidrolynddwywaith, ie deirgwaith;

30. fe adfer ei einioes o'r pwll,er mwyn iddo gael gweld goleuni bywyd.

31. Ystyria, Job, a gwrando arnaf;bydd dawel ac mi lefaraf.

32. Os oes gennyt ddadl, ateb fi;llefara, oherwydd fy nymuniad yw dy gyfiawnhau.

33. Ond os nad oes gennyt ddim i'w ddweud, gwrando arnaf;bydd dawel, a dysgaf ddoethineb i ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 33