Hen Destament

Testament Newydd

Job 33:10-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ond y mae Duw yn codi cwynion yn fy erbyn,ac yn f'ystyried yn elyn iddo,

11. yn gosod fy nhraed mewn cyffion,ac yn gwylio fy holl ffyrdd.’

12. “Nid wyt yn iawn yn hyn, a dyma f'ateb iti:Y mae Duw yn fwy na meidrolyn.

13. Pam yr wyt yn ymgecru ag ef,oherwydd nid oes ateb i'r un o'i eiriau?

14. Mae Duw yn llefaru unwaith ac eilwaith,ond nid oes neb yn cymryd sylw.

15. Mewn breuddwyd, mewn gweledigaeth nos,pan ddaw trymgwsg ar bobl,pan gysgant yn eu gwelyau,

16. yna fe wna iddynt wrando,a'u dychryn â rhybuddion,

17. i droi rhywun oddi wrth ei weithred,a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho,

18. a gwaredu ei einioes rhag y pwll,a'i fywyd rhag croesi afon angau.

19. “Fe'i disgyblir ar ei orweddâ chryndod di-baid yn ei esgyrn;

20. y mae bwyd yn ffiaidd ganddo,ac nid oes arno chwant am damaid blasus;

21. nycha'i gnawd o flaen fy llygad,a daw'r esgyrn, na welid gynt, i'r amlwg;

22. y mae ei einioes ar ymyl y pwll,a'i fywyd ger mangre'r meirw.

23. Os oes angel i sefyll drosto—un o blith mil i gyfrynguac i ddadlau ei hawl drosto,

24. a thrugarhau wrtho gan ddweud,‘Achub ef rhag mynd i'r pwll;y mae pris ei ryddid gennyf fi’—

25. yna bydd ei gnawd yn iachach nag erioed,wedi ei adfer fel yr oedd yn nyddiau ei ieuenctid.

26. Bydd yn gweddïo ar Dduw, ac yntau'n ei wrando;bydd yn edrych ar ei wyneb mewn llawenydd,gan ddweud wrth eraill am ei gyfiawnhad

Darllenwch bennod gyflawn Job 33