Hen Destament

Testament Newydd

Job 32:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Peidiodd y tri gŵr â dadlau rhagor â Job, am fod Job yn ei ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw.

2. Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw,

3. a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio.

4. Tra oeddent hwy'n llefaru wrth Job, yr oedd Elihu wedi cadw'n dawel am eu bod yn hŷn nag ef.

5. Ond digiodd pan welodd nad oedd gan y tri gŵr ateb i Job.

6. Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad:“Dyn ifanc wyf fi,a chwithau'n hen;am hyn yr oeddwn yn ymatal,ac yn swil i ddweud fy marn wrthych.

7. Dywedais, ‘Caiff profiad maith siarad,ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.’

8. Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun,ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus.

9. Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth,ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn.

10. Am hyn yr wyf yn dweud, ‘Gwrando arnaf;gad i minnau ddweud fy marn.’

Darllenwch bennod gyflawn Job 32