Hen Destament

Testament Newydd

Job 31:24-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. “Os rhoddais fy hyder ar aur,a meddwl am ddiogelwch mewn aur coeth;

25. os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr,a bod cymaint yn fy meddiant;

26. os edrychais ar yr haul yn tywynnu,a'r lleuad tra parhâi'n ddisglair,

27. ac os cafodd fy nghalon ei hudo'n ddirgel,a chusanu fy llaw mewn gwrogaeth;

28. byddai hyn hefyd yn drosedd i'm barnwr,oherwydd imi wadu Duw uchod.

29. “A lawenychais am drychineb fy ngelyn,ac ymffrostio pan ddaeth drwg arno?

30. Ni adewais i'm tafod bechutrwy osod ei einioes dan felltith.

31. Oni ddywedodd y dynion yn fy mhabell,‘Pwy sydd na ddigonwyd ganddo â bwyd?’?

32. Ni chafodd y dieithryn gysgu allan;agorais fy nrws i'r crwydryn.

33. A guddiais fy nhroseddau fel y gwna eraill,trwy gadw fy nghamwedd yn fy mynwes,

34. am fy mod yn ofni'r dyrfa,a bod dirmyg cymdeithas yn fy nychryn,a minnau'n cadw'n dawel heb fynd allan?

35. O na fyddai rhywun yn gwrando arnaf!Deuthum i'r terfyn; caiff yr Hollalluog yn awr fy ateb,a chaiff fy ngwrthwynebwr ysgrifennu'r wŷs.

36. Yn wir dygaf hi ar f'ysgwyddau,a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.

37. Rhof gyfrif iddo o'm camau,a nesáu ato fel tywysog.

Darllenwch bennod gyflawn Job 31