Hen Destament

Testament Newydd

Job 30:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Pobl ynfyd a dienw ydynt;fe'u gyrrwyd allan o'r tir.

9. “Ond yn awr myfi yw testun eu gwatwargerdd;yr wyf yn destun gwawd iddynt.

10. Ffieiddiant fi a chadw draw oddi wrthyf,ac nid yw'n ddim ganddynt boeri yn fy wyneb.

11. Pan ryddha ef raff a'm cystuddio,taflant hwythau'r enfa yn fy ngŵydd.

12. Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde;gorfodant fi i gerdded ymlaen,ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.

13. Maluriant fy llwybrau,ychwanegant at f'anffawd,ac nid oes neb yn eu rhwystro.

14. Dônt arnaf fel trwy fwlch llydan;rhuthrant trwy ganol y dinistr.

15. Daeth dychryniadau arnaf;gwasgerir fy urddas fel gan wynt;diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl.

16. “Yn awr llewygodd fy ysbryd,cydiodd dyddiau cystudd ynof.

17. Dirboenir f'esgyrn drwy'r nos,ac ni lonydda fy nghnofeydd.

18. Cydiant yn nerthol yn fy nillad,a gafael ynof wrth goler fy mantell.

19. Taflwyd fi i'r llaid,ac ystyrir fi fel llwch a lludw.

20. Gwaeddaf arnat am gymorth, ond nid wyt yn f'ateb;safaf o'th flaen, ond ni chymeri sylw ohonof.

Darllenwch bennod gyflawn Job 30