Hen Destament

Testament Newydd

Job 30:26-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Eto pan obeithiais i am ddaioni, daeth drwg;pan ddisgwyliais am oleuni, dyna dywyllwch.

27. Y mae cyffro o'm mewn; ni chaf lonydd,daeth dyddiau gofid arnaf.

28. Af o gwmpas yn groenddu, ond nid gan wres haul;codaf i fyny yn y gynulleidfa i ymbil am gymorth.

29. Yr wyf yn frawd i'r siacal,ac yn gyfaill i'r estrys.

30. Duodd fy nghroen,a llosgodd f'esgyrn gan wres.

31. Aeth fy nhelyn i'r cywair lleddf,a'm ffliwt i seinio galar.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 30