Hen Destament

Testament Newydd

Job 30:21-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Yr wyt wedi troi'n greulon tuag ataf,ac yr wyt yn ymosod arnaf â'th holl nerth.

22. Fe'm codi i fyny i farchogaeth y gwynt,a'm bwrw yma ac acw i ddannedd y storm.

23. Gwn yn sicr mai i farwolaeth y'm dygi,i'r lle a dynghedwyd i bob un byw.

24. “Onid yw un dan adfeilion yn estyn allan ei lawac yn gweiddi am ymwared yn ei ddinistr?

25. Oni wylais dros yr un yr oedd yn galed arno,a gofidio dros y tlawd?

26. Eto pan obeithiais i am ddaioni, daeth drwg;pan ddisgwyliais am oleuni, dyna dywyllwch.

27. Y mae cyffro o'm mewn; ni chaf lonydd,daeth dyddiau gofid arnaf.

28. Af o gwmpas yn groenddu, ond nid gan wres haul;codaf i fyny yn y gynulleidfa i ymbil am gymorth.

29. Yr wyf yn frawd i'r siacal,ac yn gyfaill i'r estrys.

30. Duodd fy nghroen,a llosgodd f'esgyrn gan wres.

31. Aeth fy nhelyn i'r cywair lleddf,a'm ffliwt i seinio galar.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 30