1. “Ond yn awr y maent yn chwerthin am fy mhen,ie, rhai sy'n iau na mi,rhai na buaswn yn ystyried eu tadaui'w gosod gyda'm cŵn defaid.
2. Pa werth yw cryfder eu dwylo i mi,gan fod eu hegni wedi diflannu?
3. Yn amser angen a newyn y maent yn ddifywyd,yn crafu yn y tir sych a diffaith.
4. Casglant yr hocys a dail y prysglwyna gwraidd y banadl i'w cadw eu hunain yn gynnes.
5. Erlidir hwy o blith pobl,a chodir llais yn eu herbyn fel yn erbyn lleidr.
6. Gwneir iddynt drigo yn agennau'r nentydd,ac mewn tyllau yn y ddaear a'r creigiau.
7. Y maent yn nadu o ganol y perthi;closiant at ei gilydd o dan y llwyni.
8. Pobl ynfyd a dienw ydynt;fe'u gyrrwyd allan o'r tir.
9. “Ond yn awr myfi yw testun eu gwatwargerdd;yr wyf yn destun gwawd iddynt.
10. Ffieiddiant fi a chadw draw oddi wrthyf,ac nid yw'n ddim ganddynt boeri yn fy wyneb.
11. Pan ryddha ef raff a'm cystuddio,taflant hwythau'r enfa yn fy ngŵydd.
12. Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde;gorfodant fi i gerdded ymlaen,ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.
13. Maluriant fy llwybrau,ychwanegant at f'anffawd,ac nid oes neb yn eu rhwystro.
14. Dônt arnaf fel trwy fwlch llydan;rhuthrant trwy ganol y dinistr.
15. Daeth dychryniadau arnaf;gwasgerir fy urddas fel gan wynt;diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl.