Hen Destament

Testament Newydd

Job 3:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Meddai Job:

3. “Difoder y dydd y'm ganwyd,a'r nos y dywedwyd, ‘Cenhedlwyd bachgen’.

4. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch;na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod,ac na lewyrched goleuni arno.

5. Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu;arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd.

6. Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno;na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn,ac na ddoed i blith nifer y misoedd.

7. Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth,heb sŵn gorfoledd ynddi.

8. Melltithier hi gan y rhai sy'n melltithio'r dyddiau,y rhai sy'n medru cyffroi'r lefiathan.

9. Tywylled sêr ei chyfddydd,disgwylied am oleuni heb ei gael,ac na weled doriad gwawr,

10. am na chaeodd ddrysau croth fy mam,na chuddio gofid o'm golwg.

11. Pam na fûm farw yn y groth,neu drengi pan ddeuthum allan o'r bru?

12. Pam y derbyniodd gliniau fi,ac y rhoddodd bronnau sugn i mi?

Darllenwch bennod gyflawn Job 3