Hen Destament

Testament Newydd

Job 3:17-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Yno, peidia'r drygionus â therfysgu,a chaiff y lluddedig orffwys.

18. Hefyd caiff y carcharorion lonyddwch;ni chlywant lais y meistri gwaith.

19. Bychan a mawr sydd yno,a'r caethwas yn rhydd oddi wrth ei feistr.

20. Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymediga bywyd i'r chwerw ei ysbryd,

21. sy'n dyheu am farwolaeth, heb iddi ddod,sy'n cloddio amdani yn fwy nag am drysor cudd,

22. sy'n llawenychu pan gaiff feddrod,ac yn gorfoleddu pan gaiff fedd?

23. “Ond am ddyn, cuddiwyd ei ffordd,a chaeodd Duw amdano.

24. Daw fy ochenaid o flaen fy mwyd,a thywelltir fy ngriddfan fel dyfroedd.

25. Y peth a ofnaf a ddaw arnaf,a'r hyn yr arswydaf rhagddo a ddaw imi.

26. Nid oes imi dawelwch na llonyddwch;ni chaf orffwys, canys daw dychryn.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 3