Hen Destament

Testament Newydd

Job 3:10-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. am na chaeodd ddrysau croth fy mam,na chuddio gofid o'm golwg.

11. Pam na fûm farw yn y groth,neu drengi pan ddeuthum allan o'r bru?

12. Pam y derbyniodd gliniau fi,ac y rhoddodd bronnau sugn i mi?

13. Yna, byddwn yn awr yn gorwedd yn llonydd,yn cysgu'n dawel ac yn cael gorffwys,

14. gyda brenhinoedd a chynghorwyr daear,a fu'n adfer adfeilion iddynt eu hunain,

15. neu gyda thywysogion goludog,a lanwodd eu tai ag arian,

16. neu heb fyw, fel erthyl a guddiwyd,fel babanod na welsant oleuni.

17. Yno, peidia'r drygionus â therfysgu,a chaiff y lluddedig orffwys.

18. Hefyd caiff y carcharorion lonyddwch;ni chlywant lais y meistri gwaith.

19. Bychan a mawr sydd yno,a'r caethwas yn rhydd oddi wrth ei feistr.

20. Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymediga bywyd i'r chwerw ei ysbryd,

Darllenwch bennod gyflawn Job 3