Hen Destament

Testament Newydd

Job 3:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni.

2. Meddai Job:

3. “Difoder y dydd y'm ganwyd,a'r nos y dywedwyd, ‘Cenhedlwyd bachgen’.

4. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch;na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod,ac na lewyrched goleuni arno.

5. Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu;arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd.

6. Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno;na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn,ac na ddoed i blith nifer y misoedd.

7. Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth,heb sŵn gorfoledd ynddi.

8. Melltithier hi gan y rhai sy'n melltithio'r dyddiau,y rhai sy'n medru cyffroi'r lefiathan.

Darllenwch bennod gyflawn Job 3