Hen Destament

Testament Newydd

Job 29:18-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Yna dywedais, ‘Byddaf farw yn f'anterth,a'm dyddiau mor niferus â'r tywod,

19. a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd,a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,

20. a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd,a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.’

21. “Gwrandawai pobl arnaf,a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor.

22. Wedi imi lefaru, ni ddywedent air;diferai fy ngeiriau arnynt.

23. Disgwylient wrthyf fel am y glaw,ac agorent eu genau fel am law y gwanwyn.

24. Pan wenwn arnynt, oni chaent hyder?A phan lewyrchai fy wyneb, ni fyddent brudd.

25. Dewiswn eu ffordd iddynt, ac eistedd yn ben arnynt;eisteddwn fel brenin yng nghanol ei lu,fel un yn cysuro'r galarus.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 29