Hen Destament

Testament Newydd

Job 28:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Agorir pyllau yn y cymoedd ymhell oddi wrth bawb;fe'u hanghofiwyd gan y teithwyr.Y maent yn hongian ymhell o olwg pobl,gan siglo'n ôl ac ymlaen.

5. Ceir bwyd o'r ddaear,eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan dân.

6. Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir,a llwch aur sydd ynddi.

7. Y mae llwybr na ŵyr hebog amdano,ac nas gwelwyd gan lygad barcud,

8. ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar,ac na theithiodd y llew arno.

9. Estyn dyn ei law am y gallestr,a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.

10. Egyr dwnelau yn y creigiau,a gwêl ei lygaid bopeth gwerthfawr.

Darllenwch bennod gyflawn Job 28