Hen Destament

Testament Newydd

Job 27:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Aeth Job ymlaen â'i ddadl, gan ddweud:

2. “Cyn wired â bod Duw yn fyw, a droes o'r neilltu fy achos,a'r Hollalluog, a wnaeth fy einioes yn chwerw,

3. tra bydd anadl ynof,ac ysbryd Duw yn fy ffroenau,

4. ni chaiff fy ngenau lefaru twyll,na'm tafod ddweud celwydd!

5. Pell y bo imi ddweud eich bod chwi'n iawn!Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw.

6. Daliaf yn ddiysgog at fy nghyfiawnder,ac nid yw fy nghalon yn fy ngheryddu am fy muchedd.

7. “Bydded fy ngelyn fel y drygionus,a'm gwrthwynebwr fel y twyllodrus.

Darllenwch bennod gyflawn Job 27