1. Yna atebodd Bildad y Suhiad:
2. “Y mae awdurdod a dychryn gyda Duwsy'n peri heddwch yn yr uchelder.
3. A ellir rhifo ei fyddinoedd?Ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?
4. Sut y gall unrhyw un fod yn gyfiawn gerbron Duw?A pha fodd y gwneir yn lân un a anwyd o wraig?
5. Gwêl, nid yw'r lleuad yn rhoi goleuni pur,ac nid yw'r sêr yn lân yn ei olwg.
6. Beth, ynteu, am feidrolyn, y llyngyryn,ac un dynol, y pryfyn?”