1. Atebodd Job:
2. “Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw,a'i law sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid.
3. O na wyddwn ble y cawn ef,a pha fodd i ddod at ei drigfan!
4. Yna gosodwn fy achos o'i flaen,a llenwi fy ngenau â dadleuon.
5. Mynnwn wybod sut yr atebai fi,a deall beth a ddywedai wrthyf.
6. Ai gyda'i holl nerth y dadleuai â mi?Na, ond fe roddai sylw imi.
7. Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef,a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr.
8. “Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno;ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef.
9. Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf;os try i'r de, nis gwelaf.
10. Ond y mae ef yn deall fy ffordd;wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur.
11. Dilyn fy nhroed ei lwybr;cadwaf ei ffordd heb wyro.
12. Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau;cadwaf ei eiriau yn fy mynwes.
13. Erys ef yr un, a phwy a'i try?Fe wna beth bynnag a ddymuna.
14. Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben,fel llawer o rai eraill sydd ganddo.
15. Am hyn yr arswydaf rhagddo;pan ystyriaf, fe'i hofnaf.
16. Duw sy'n gwanychu fy nghalon;yr Hollalluog sy'n fy nychryn;
17. nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf,na'r fagddu'n fy nghuddio.”