6. Cymeri wystl gan dy gymrodyr yn ddiachos,a dygi ymaith ddillad y tlawd.
7. Ni roddi ddŵr i'r lluddedig i'w yfed,a gwrthodi fara i'r newynog.
8. Y cryf sy'n meddiannu'r tir,a'r ffefryn a drig ynddo.
9. Gyrri'r weddw ymaith yn waglaw,ac ysigi freichiau'r amddifad.
10. Am hyn y mae maglau o'th gwmpas,a daw ofn disymwth i'th lethu,
11. a thywyllwch fel na elli weld,a bydd dyfroedd yn dy orchuddio.
12. “Onid yw Duw yn uchder y nefoeddyn edrych i lawr ar y sêr sy mor uchel?
13. Felly dywedi, ‘Beth a ŵyr Duw?A all ef farnu trwy'r tywyllwch?
14. Cymylau na wêl trwyddynt sy'n ei guddio,ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.’
15. A gedwi di at yr hen fforddy rhodiodd y drygionus ynddi?
16. Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd,pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon.
17. Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym’.Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy?