Hen Destament

Testament Newydd

Job 22:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. a thywyllwch fel na elli weld,a bydd dyfroedd yn dy orchuddio.

12. “Onid yw Duw yn uchder y nefoeddyn edrych i lawr ar y sêr sy mor uchel?

13. Felly dywedi, ‘Beth a ŵyr Duw?A all ef farnu trwy'r tywyllwch?

14. Cymylau na wêl trwyddynt sy'n ei guddio,ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.’

15. A gedwi di at yr hen fforddy rhodiodd y drygionus ynddi?

16. Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd,pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon.

Darllenwch bennod gyflawn Job 22