1. Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
2. “A yw unrhyw un o werth i Dduw?Onid iddo'i hun y mae'r doeth o werth?
3. A oes boddhad i'r Hollalluog pan wyt yn gyfiawn,neu elw iddo pan wyt yn rhodio'n gywir?
4. Ai am dy dduwioldeb y mae'n dy geryddu,ac yn dy ddwyn i farn?
5. Onid yw dy ddrygioni'n fawr,a'th gamwedd yn ddiderfyn?
6. Cymeri wystl gan dy gymrodyr yn ddiachos,a dygi ymaith ddillad y tlawd.
7. Ni roddi ddŵr i'r lluddedig i'w yfed,a gwrthodi fara i'r newynog.
8. Y cryf sy'n meddiannu'r tir,a'r ffefryn a drig ynddo.
9. Gyrri'r weddw ymaith yn waglaw,ac ysigi freichiau'r amddifad.
10. Am hyn y mae maglau o'th gwmpas,a daw ofn disymwth i'th lethu,
11. a thywyllwch fel na elli weld,a bydd dyfroedd yn dy orchuddio.
12. “Onid yw Duw yn uchder y nefoeddyn edrych i lawr ar y sêr sy mor uchel?
13. Felly dywedi, ‘Beth a ŵyr Duw?A all ef farnu trwy'r tywyllwch?
14. Cymylau na wêl trwyddynt sy'n ei guddio,ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.’