15. Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu,a pha fantais sydd inni os gweddïwn arno?’
16. “Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant?Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw.
17. “Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol,ac y daw eu dinistr arnynt hwy,ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid?
18. A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt,neu fel us a ddygir ymaith gan y storm?
19. A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant?Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng.
20. Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr,ac yfed o lid yr Hollalluog.
21. Pa ddiddordeb fydd ganddo yn ei deulu ar ei ôl,pan fydd nifer ei fisoedd wedi darfod?
22. “A ellir dysgu gwybodaeth i Dduw?Onid ef sy'n barnu'r beilchion?
23. “Bydd un farw yn ei lwyddiant,mewn llonyddwch a thawelwch,
24. ei lwynau yn llawn braster,a mêr ei esgyrn yn iraidd.
25. Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd,heb brofi daioni.