1. Atebodd Job:
2. “Gwrandewch eto ar fy ngeiriau;felly y rhowch gysur imi.
3. Goddefwch i mi lefaru,ac wedi imi lefaru, cewch watwar.
4. Oni chaf ddweud fy nghwyn wrth rywun?a pham na chaf fod yn ddiamynedd?
5. Edrychwch arnaf, a synnwch,a rhowch eich llaw ar eich genau.
6. Pan ystyriaf hyn, rwy'n arswydo,a daw cryndod i'm cnawd.
7. “Pam y caiff yr annuwiol fyw,a heneiddio'n gadarnach eu nerth?
8. Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas,a'u teulu yn eu hymyl.
9. Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn,ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt.
10. Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth,a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu.
11. Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid,a dawnsia'u plant yn hapus.
12. Canant gyda'r dympan a'r delyn,a byddant lawen wrth sŵn y pibau.
13. Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd,a disgynnant i Sheol mewn heddwch.
14. Dywedant wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym;ni fynnwn wybod dy ffyrdd.
15. Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu,a pha fantais sydd inni os gweddïwn arno?’