2. “Yn awr, fe'm cynhyrfir i ateb;am hynny atebaf ar frys.
3. Clywais gerydd sy'n fy nifrïo;y mae cynnwrf fy meddwl yn fy ngorfodi i ateb.
4. Onid wyt yn gwybod hyn? o'r dechrau,er pan osodwyd pobl ar y ddaear,
5. byr yw gorfoledd y drygionus,ac am gyfnod yn unig y pery llawenydd yr annuwiol.
6. Er i'w falchder esgyn i'r uchelder,ac i'w ben gyffwrdd â'r cymylau,
7. eto derfydd am byth fel ei dom ei hun,a dywed y rhai a'i gwelodd, ‘Ple mae ef?’
8. Eheda ymaith fel breuddwyd, ac ni fydd yn bod;fe'i hymlidir fel gweledigaeth nos.
9. Y llygad a'i gwelodd, ni wêl mohono mwy,ac nid edrych arno yn ei le.
10. Cais ei blant ffafr y tlawd,a dychwel ei ddwylo ei gyfoeth.
11. Y mae ei esgyrn sy'n llawn egniyn gorwedd gydag ef yn y llwch.
12. “Er i ddrygioni droi'n felys yn ei enau,a'i fod yntau am ei gadw dan ei dafod,
13. ac yn anfodlon ei ollwng,ond yn ei ddal dan daflod ei enau,
14. eto y mae ei fwyd yn ei gyllayn troi'n wenwyn asb iddo.
15. Llynca gyfoeth, ac yna'i chwydu;bydd Duw'n ei dynnu allan o'i fol.