16. Sugna wenwyn yr asb,ac yna fe'i lleddir gan golyn gwiber.
17. Ni chaiff weld ffrydiau o olew,nac afonydd o fêl a llaeth.
18. Dychwel ffrwyth ei lafur heb iddo elwa arno;er cymaint ei enillion, ni chaiff eu mwynhau.
19. Oherwydd gorthrymodd y tlawd a'i adael yn ddiymgeledd;cipiodd dŷ nas adeiladodd.
20. Ni ŵyr sut i dawelu ei chwant,ac ni ddianc dim rhag ei wanc.
21. Nid oes gweddill iddo'i fwyta,ac felly nid oes parhad i'w ffyniant.
22. Wedi digoni ei chwant, â'n gyfyng arno;daw holl rym gofid arno.
23. Pan fydd ar fedr llenwi ei fol,gyrrir arno angerdd llid,a'i dywallt i lawr i'w berfedd.
24. “Fe ffy rhag arfau haearn,ond fe'i trywenir gan y saeth bres.
25. Tynnir hi allan o'i gorff,y blaen gloyw allan o'i fustl;daw dychrynfeydd arno.
26. Tywyllwch llwyr a gadwyd ar gyfer ei drysorau;ysir ef gan dân nad oes raid ei chwythu;difethir yr hyn a adawyd yn ei babell.
27. Dadlenna'r nefoedd ei gamwedd,a chyfyd y ddaear yn ei erbyn.
28. Bydd i'r dilyw ddwyn ymaith ei dŷ,a llifogydd, yn nydd ei lid.
29. Dyma dynged yr annuwiol oddi wrth Dduw,a'r etifeddiaeth a osododd iddo.”