Hen Destament

Testament Newydd

Job 19:9-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf,a symudodd y goron oddi ar fy mhen.

10. Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf;diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.

11. Enynnodd ei lid yn f'erbyn,ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.

12. Daeth ei fyddinoedd ynghyd;gosodasant sarn hyd ataf,ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.

13. “Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf,ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.

14. Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod,ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.

15. Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf;estron wyf yn eu golwg.

16. Galwaf ar fy ngwas, ond nid yw'n fy ateb,er i mi erfyn yn daer arno.

17. Aeth fy anadl yn atgas i'm gwraig,ac yn ddrewdod i'm plant fy hun.

18. Dirmygir fi hyd yn oed gan blantos;pan godaf ar fy nhraed, y maent yn troi cefn arnaf.

19. Ffieiddir fi gan fy nghyfeillion pennaf;trodd fy ffrindiau agosaf yn f'erbyn.

20. Y mae fy nghnawd yn glynu wrth fy esgyrn,a dihengais â chroen fy nannedd.

21. “Cymerwch drugaredd arnaf, fy nghyfeillion,oherwydd cyffyrddodd llaw Duw â mi.

22. Pam yr erlidiwch fi fel y gwna Duw?Oni chawsoch ddigon ar ddifa fy nghnawd?

23. O na fyddai fy ngeiriau wedi eu hysgrifennu!O na chofnodid hwy mewn llyfr,

24. wedi eu hysgrifennu â phin haearn a phlwm,a'u naddu ar garreg am byth!

25. Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw,ac y saif o'm plaid yn y diwedd;

26. ac wedi i'm croen ddifa fel hyn,eto o'm cnawd caf weld Duw.

27. Fe'i gwelaf ef o'm plaid;ie, fy llygaid fy hun a'i gwêl, ac nid yw'n ddieithr.Y mae fy nghalon yn dyheu o'm mewn.

28. “Os dywedwch, ‘Y fath erlid a fydd arno,gan fod gwreiddyn y drwg ynddo,’

29. yna arswydwch rhag y cleddyf,oherwydd daw cynddaredd â chosb y cleddyf,ac yna y cewch wybod fod barn.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 19