2. “Am ba hyd y blinwch fi,a'm dryllio â geiriau?
3. Yr ydych wedi fy ngwawdio ddengwaith,ac nid oes arnoch gywilydd fy mhoeni.
4. Os yw'n wir imi gyfeiliorni,onid arnaf fi fy hun y mae'r bai?
5. Os ydych yn wir yn eich gwneud eich hunain yn well na mi,ac yn fy nghondemnio o achos fy ngwarth,
6. ystyriwch yn awr mai Duw sydd wedi gwneud cam â mi,ac wedi taflu ei rwyd o'm hamgylch.
7. Os gwaeddaf, ‘Trais’, ni chaf ateb;os ceisiaf help, ni chaf farn deg.
8. Caeodd fy ffordd fel na allaf ddianc,a gwnaeth fy llwybr yn dywyll o'm blaen.
9. Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf,a symudodd y goron oddi ar fy mhen.
10. Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf;diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.
11. Enynnodd ei lid yn f'erbyn,ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.
12. Daeth ei fyddinoedd ynghyd;gosodasant sarn hyd ataf,ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.
13. “Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf,ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.