Hen Destament

Testament Newydd

Job 18:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. “Pa bryd y rhowch derfyn ar eiriau?Ystyriwch yn bwyllog, yna gallwn siarad.

3. Pam yr ystyrir ni fel anifeiliaid,ac y cyfrifir ni'n hurt yn eich golwg?

4. Un yn ei rwygo'i hun yn ei lid!A wneir y ddaear yn ddiffaith er dy fwyn di?A symudir y graig o'i lle?

5. “Fe ddiffydd goleuni'r drygionus,ac ni chynnau fflam ei dân.

6. Fe dywylla'r goleuni yn ei babell,a diffydd ei lamp uwch ei ben.

Darllenwch bennod gyflawn Job 18