Hen Destament

Testament Newydd

Job 18:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ysir ei groen gan glefyd,a llyncir ei aelodau gan Gyntafanedig Angau;

14. yna cipir ef o'r babell yr ymddiriedai ef ynddi,a'i ddwyn at Frenin Braw.

15. Bydd estron yn trigo yn ei babell,a gwasgerir brwmstan ar ei annedd.

16. “Crina'i wraidd oddi tanodd,a gwywa'i ganghennau uwchben.

17. Derfydd y cof amdano o'r tir,ac nid erys ei enw yn y wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Job 18