Hen Destament

Testament Newydd

Job 15:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

29. Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth,ac ni chynydda'i olud yn y tir.

30. Ni ddianc rhag y tywyllwch.Deifir ei frig gan y fflam,a syrth ei flagur yn y gwynt.

31. Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun,canys gwagedd fydd ei dâl.

32. Bydd yn gwywo cyn ei amser,ac ni lasa'i gangen.

33. Dihidla'i rawnwin anaeddfed fel gwinwydden,a bwrw ei flodau fel olewydden.

Darllenwch bennod gyflawn Job 15