Hen Destament

Testament Newydd

Job 15:26-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. a rhuthro arno'n haerllug,a both ei darian yn drwchus;

27. oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster,ac i'w lwynau dewychu â bloneg,

28. fe drig mewn dinasoedd diffaith,mewn tai heb neb yn byw ynddynt,lleoedd sydd ar fin adfeilio.

29. Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth,ac ni chynydda'i olud yn y tir.

30. Ni ddianc rhag y tywyllwch.Deifir ei frig gan y fflam,a syrth ei flagur yn y gwynt.

31. Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun,canys gwagedd fydd ei dâl.

32. Bydd yn gwywo cyn ei amser,ac ni lasa'i gangen.

33. Dihidla'i rawnwin anaeddfed fel gwinwydden,a bwrw ei flodau fel olewydden.

34. Diffrwyth yw cwmni'r annuwiol,ac fe ysa'r tân drigfannau breibwyr.

35. Beichiogant ar flinder ac ymddŵyn drwg,ac ar dwyll yr esgor eu croth.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 15