Hen Destament

Testament Newydd

Job 15:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2. “Ai ateb â gwybodaeth nad yw'n ddim ond gwynt a wna'r doeth,a llenwi ei fol â'r dwyreinwynt?

3. A ddadleua ef â gair di-fudd,ac â geiriau di-les?

4. Ond yr wyt ti'n diddymu duwioldeb,ac yn rhwystro defosiwn gerbron Duw.

5. Oherwydd dy gamwedd sy'n hyfforddi dy enau,ac ymadrodd y cyfrwys a ddewisi.

6. Dy enau dy hun sy'n dy gondemnio, nid myfi,a'th wefusau di sy'n tystio yn dy erbyn.

7. “Ai ti a anwyd y cyntaf o bawb?A ddygwyd di i'r byd cyn y bryniau?

8. A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach Duw,ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun?

9. Beth a wyddost ti na wyddom ni?Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau?

10. Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus,rhai sy'n hŷn na'th dad.

11. Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw,a'r gair a ddaw'n ddistaw atat?

12. Beth a ddaeth dros dy feddwl?Pam y mae dy lygaid yn fflachio

13. fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw,ac yn arllwys y geiriau hyn?

14. Sut y gall neb fod yn ddieuog,ac un a anwyd o wraig fod yn gyfiawn?

15. Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd,os nad yw'r nefoedd yn lân yn ei olwg,

Darllenwch bennod gyflawn Job 15