Hen Destament

Testament Newydd

Job 13:13-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. “Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru,a doed a ddelo arnaf.

14. Cymeraf fy nghnawd rhwng fy nannedd,a'm heinioes yn fy nwylo.

15. Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi;eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen.

16. A hyn sy'n rhoi hyder i mi,na all neb annuwiol fynd ato.

17. Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau,a rhowch glust i'm tystiolaeth.

18. Dyma fi wedi trefnu f'achos;gwn y caf fy nghyfiawnhau.

19. Pwy sydd i ddadlau â mi,i wneud imi dewi a rhoi i fyny'r ysbryd?

20. Gwna ddau beth yn unig imi,ac nid ymguddiaf oddi wrthyt:

21. symud dy law oddi arnaf,fel na'm dychryner gan dy arswyd;

22. yna galw arnaf ac atebaf finnau,neu gad i mi siarad a rho di ateb.

23. Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau?Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod.

24. Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb,ac yn f'ystyried yn elyn iti?

25. A ddychryni di ddeilen grin,ac ymlid soflyn sych?

26. Oherwydd dygaist bethau chwerw yn f'erbyn,a gwneud imi etifeddu drygioni fy ieuenctid.

27. Gosodaist fy nhraed mewn cyffion(yr wyt yn gwylio fy holl ffyrdd),a rhoist nod ar wadnau fy nhraed.

28. Ond derfydd dyn fel costrel groen,fel dilledyn wedi ei ysu gan wyfyn.”

Darllenwch bennod gyflawn Job 13