11. Onid yw ei fawredd yn eich dychryn?Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?
12. Geiriau lludw yw eich gwirebau,a chlai yw eich amddiffyniad.
13. “Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru,a doed a ddelo arnaf.
14. Cymeraf fy nghnawd rhwng fy nannedd,a'm heinioes yn fy nwylo.
15. Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi;eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen.
16. A hyn sy'n rhoi hyder i mi,na all neb annuwiol fynd ato.
17. Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau,a rhowch glust i'm tystiolaeth.
18. Dyma fi wedi trefnu f'achos;gwn y caf fy nghyfiawnhau.
19. Pwy sydd i ddadlau â mi,i wneud imi dewi a rhoi i fyny'r ysbryd?
20. Gwna ddau beth yn unig imi,ac nid ymguddiaf oddi wrthyt:
21. symud dy law oddi arnaf,fel na'm dychryner gan dy arswyd;
22. yna galw arnaf ac atebaf finnau,neu gad i mi siarad a rho di ateb.
23. Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau?Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod.
24. Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb,ac yn f'ystyried yn elyn iti?
25. A ddychryni di ddeilen grin,ac ymlid soflyn sych?
26. Oherwydd dygaist bethau chwerw yn f'erbyn,a gwneud imi etifeddu drygioni fy ieuenctid.