1. “Gwelodd fy llygad hyn i gyd;clywodd fy nghlust ef, a'i ddeall.
2. Rwyf finnau'n deall gystal â chwithau;nid wyf yn ddim salach na chwi.
3. Eto â'r Hollalluog y dymunaf siarad,a dadlau fy achos gyda Duw;
4. ond yr ydych chwi'n palu celwydd,a'r cwbl ohonoch yn plethu anwiredd.
5. O na fyddech yn cadw'n ddistaw!Hynny a fyddai'n ddoeth i chwi.
6. Gwrandewch yn awr ar fy achos,a rhowch ystyriaeth i'm dadl.
7. A ddywedwch gelwydd dros Dduw,a thwyll er ei fwyn?
8. A gymerwch chwi ei blaid,a dadlau dros Dduw?
9. A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi?A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn?
10. Bydd ef yn sicr o'ch cerydduos cymerwch ffafriaeth yn y dirgel.
11. Onid yw ei fawredd yn eich dychryn?Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?
12. Geiriau lludw yw eich gwirebau,a chlai yw eich amddiffyniad.
13. “Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru,a doed a ddelo arnaf.
14. Cymeraf fy nghnawd rhwng fy nannedd,a'm heinioes yn fy nwylo.
15. Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi;eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen.