Hen Destament

Testament Newydd

Job 13:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Gwelodd fy llygad hyn i gyd;clywodd fy nghlust ef, a'i ddeall.

2. Rwyf finnau'n deall gystal â chwithau;nid wyf yn ddim salach na chwi.

3. Eto â'r Hollalluog y dymunaf siarad,a dadlau fy achos gyda Duw;

4. ond yr ydych chwi'n palu celwydd,a'r cwbl ohonoch yn plethu anwiredd.

5. O na fyddech yn cadw'n ddistaw!Hynny a fyddai'n ddoeth i chwi.

6. Gwrandewch yn awr ar fy achos,a rhowch ystyriaeth i'm dadl.

7. A ddywedwch gelwydd dros Dduw,a thwyll er ei fwyn?

8. A gymerwch chwi ei blaid,a dadlau dros Dduw?

9. A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi?A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn?

10. Bydd ef yn sicr o'ch cerydduos cymerwch ffafriaeth yn y dirgel.

11. Onid yw ei fawredd yn eich dychryn?Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?

12. Geiriau lludw yw eich gwirebau,a chlai yw eich amddiffyniad.

13. “Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru,a doed a ddelo arnaf.

Darllenwch bennod gyflawn Job 13