6. Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr,a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw—rhai wedi cael Duw dan eu bawd!
7. “Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu,ac i adar y nefoedd fynegi i ti,
8. neu i blanhigion y tir dy hyfforddi,ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo.
9. Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gydmai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?
10. Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw,ac anadl pob un meidrol.
11. Onid yw'r glust yn profi geiriau,fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?
12. “Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb,a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?