Hen Destament

Testament Newydd

Job 1:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd gŵr yng ngwlad Us o'r enw Job, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.

2. Ganwyd iddo saith mab a thair merch,

3. ac yr oedd ganddo saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum can iau o ychen, pum cant o asennod, a llawer iawn o weision. Y gŵr hwn oedd y mwyaf o holl bobl y Dwyrain.

4. Arferai ei feibion fynd i gartrefi ei gilydd i gynnal gwledd, pob un yn ei dro, ac anfonent wahoddiad i'w tair chwaer i fwyta ac yfed gyda hwy.

5. Yna pan ddôi cylch y gwledda i ben, anfonai Job amdanynt i'w puro; codai'n fore i offrymu poethoffrymau, un dros bob un ohonynt, oherwydd meddyliai, “Efallai fod fy meibion wedi pechu a melltithio Duw yn eu calonnau.” Fel hyn y gwnâi Job yn gyson.

6. Daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy.

7. Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “O ble y daethost ti?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti.”

8. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “A sylwaist ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.”

9. Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Ai'n ddiachos y mae Job yn ofni Duw?

10. Oni warchodaist drosto ef a'i deulu a'i holl eiddo? Bendithiaist ei waith, a chynyddodd ei dda yn y tir.

Darllenwch bennod gyflawn Job 1