Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 9:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. O na bai gennyf yn yr anialwch lety fforddolion!Gadawn fy mhobl, a mynd i ffwrdd oddi wrthynt.Canys y maent oll yn odinebwyr, ac yn gwmni o dwyllwyr.

3. “Plygasant eu tafod, fel bwa, i gelwydd;ac nid ar bwys gwirionedd yr aethant yn gryf yn y wlad.Aethant o un drwg i'r llall, ac nid ydynt yn fy adnabod i,” medd yr ARGLWYDD.

4. “Gocheled pob un ei gymydog, ac na rodded neb goel ar ei berthynas;canys yn sicr disodlwr yw pob perthynas, ac enllibiwr yw pob cymydog.

5. Y mae pob un yn twyllo'i gymydog, heb ddweud y gwir;dysgodd i'w dafod ddweud celwydd,troseddodd, ac ymflino nes methu edifarhau.

6. Pentyrrant ormes ar ormes, twyll ar dwyll;gwrthodant fy adnabod i,” medd yr ARGLWYDD.

7. Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Rwyf am eu toddi a'u puro hwy.Beth arall a wnaf o achos merch fy mhobl?

8. Saeth yn lladd yw eu tafod; y mae'n llefaru'n dwyllodrus.Y mae'n traethu heddwch wrth ei gymydog, ond yn ei galon yn gosod cynllwyn iddo.

9. Onid ymwelaf â hwy am y pethau hyn?” medd yr ARGLWYDD.“Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?

10. Codaf wylofain a chwynfan am y mynyddoedd, a galarnad am lanerchau'r anialwch;canys y maent wedi eu dinistrio fel nad â neb heibio, ac ni chlywant fref y gwartheg;y mae adar y nef a'r anifeiliaid hefyd wedi ffoi ymaith.

11. Gwnaf Jerwsalem yn garneddau ac yn drigfan bleiddiaid;a gwnaf ddinasoedd Jwda yn ddiffeithwch heb breswylydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 9