Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 7:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD.

2. “Saf ym mhorth tŷ'r ARGLWYDD, a chyhoedda yno y gair hwn: ‘Clywch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda sy'n dod i'r pyrth hyn i addoli'r ARGLWYDD.

3. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Gwellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwnaf i chwi drigo yn y fan hon.

4. Peidiwch ag ymddiried mewn geiriau celwyddog, a dweud, “Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD, Teml yr ARGLWYDD yw hon.”

5. Os gwir wellhewch eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, os gwnewch farn yn gyson rhyngoch a'ch gilydd,

6. a pheidio â gorthrymu'r dieithr, yr amddifad a'r weddw, na thywallt gwaed dieuog yn y fan hon, na rhodio ar ôl duwiau eraill i'ch niwed eich hun,

7. yna mi wnaf i chwi drigo yn y lle hwn, yn y wlad a roddais i'ch hynafiaid am byth.

8. “ ‘Yr ydych yn ymddiried mewn geiriau celwyddog, heb fod ynddynt elw.

9. Onid ydych yn lladrata, yn lladd, yn godinebu, yn tyngu llw celwyddog, yn arogldarthu i Baal, yn dilyn duwiau eraill nad ydych yn eu hadnabod?

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 7