Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 6:6-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem;hon yw'r ddinas i'w chosbi, nid oes dim ond gorthrymder o'i mewn.

7. Fel y mae dyfroedd yn tarddu mewn ffynnon,felly y mae ei drygioni ynddi hi.Am drais ac ysbail y clywir ynddi;gwaeledd a chleisiau sydd yn wastad ger fy mron.

8. Cymer wers, O Jerwsalem, rhag i mi dy adael yn llwyr,rhag i mi dy wneud yn anrhaith, yn dir anghyfannedd.”

9. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Lloffa weddill Israel yn lân, fel lloffa gwinwydd;fel casglwr grawnwin tyn dy law eilwaith dros y brigau.”

10. Â phwy y llefaraf i'w rhybuddio, a pheri iddynt glywed?Wele, y mae eu clust yn gaeedig, ac ni allant ddal sylw.Wele, y mae gair yr ARGLWYDD yn ddirmyg iddynt; nid ydynt yn ei ddymuno.

11. Yr wyf finnau'n llawn o lid yr ARGLWYDD; yr wyf wedi blino ar ymatal.“Tywelltir ef ar y plant yn yr heol,ac ar gynulliadau'r ifainc hefyd;delir y gŵr a'r wraig fel ei gilydd,yr hynafgwr a'r aeddfed mewn dyddiau.

12. Trosglwyddir eu tai i eraill,a'u meysydd a'u gwragedd ynghyd;canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad,” medd yr ARGLWYDD.

13. “O'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt, y mae pob un yn awchu am elw;o'r proffwyd i'r offeiriad, y maent bob un yn gweithredu'n ffals.

14. Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl,gan ddweud, ‘Heddwch! Heddwch!’—ac nid oes heddwch.

15. A oes arnynt gywilydd pan wnânt ffieidd-dra?Dim cywilydd o gwbl, ac ni allant wrido.Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig;yn nydd eu cosbi fe gwympant,” medd yr ARGLWYDD.

16. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys.” Ond dywedasant, “Ni rodiwn ni ddim ynddi.”

17. “Gosodaf wylwyr drosoch,” meddai, “gwrandewch ar sain yr utgorn.” Ond dywedasant, “Ni wrandawn ni ddim.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 6