Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 6:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Ffowch, blant Benjamin, o ganol Jerwsalem.Canwch utgorn yn Tecoa, a chodwch ffagl ar Beth-hacerem,oherwydd y mae drwg yn crynhoi o'r gogledd, a dinistr mawr.

2. Yr wyf am ddinistrio merch Seion, y ferch deg, foethus.

3. Fe ddaw bugeiliaid â'u praidd hyd ati,gosodant bebyll o'i chylch, a phorant bob un yn ei lain ei hun.

4. ‘Paratowch ryfel sanctaidd yn ei herbyn;codwch, awn i fyny ganol dydd.Gwae ni! Ciliodd y dydd ac y mae cysgodau'r hwyr yn ymestyn.

5. Codwch, awn i fyny liw nos a distrywiwn ei phalasau.’ ”

6. Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Torrwch goed, a chodwch glawdd yn erbyn Jerwsalem;hon yw'r ddinas i'w chosbi, nid oes dim ond gorthrymder o'i mewn.

7. Fel y mae dyfroedd yn tarddu mewn ffynnon,felly y mae ei drygioni ynddi hi.Am drais ac ysbail y clywir ynddi;gwaeledd a chleisiau sydd yn wastad ger fy mron.

8. Cymer wers, O Jerwsalem, rhag i mi dy adael yn llwyr,rhag i mi dy wneud yn anrhaith, yn dir anghyfannedd.”

9. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Lloffa weddill Israel yn lân, fel lloffa gwinwydd;fel casglwr grawnwin tyn dy law eilwaith dros y brigau.”

10. Â phwy y llefaraf i'w rhybuddio, a pheri iddynt glywed?Wele, y mae eu clust yn gaeedig, ac ni allant ddal sylw.Wele, y mae gair yr ARGLWYDD yn ddirmyg iddynt; nid ydynt yn ei ddymuno.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 6