Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 52:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Un ar hugain oed oedd Sedeceia pan ddechreuodd deyrnasu, a theyrnasodd yn Jerwsalem am un mlynedd ar ddeg; enw ei fam oedd Hamutal merch Jeremeia o Libna.

2. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel yr oedd Jehoiacim wedi gwneud;

3. ac oherwydd digofaint yr ARGLWYDD cafodd Jerwsalem a Jwda eu bwrw allan o'i ŵydd.Gwrthryfelodd Sedeceia yn erbyn brenin Babilon,

4. ac yn nawfed flwyddyn ei deyrnasiad, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon, gyda'i holl fyddin, yn erbyn Jerwsalem, a chodi gwarchae yn ei herbyn ac adeiladu tyrau gwarchae o'i hamgylch.

5. Bu'r ddinas dan warchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Sedeceia.

6. Yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o'r mis, yr oedd y newyn yn drwm yn y ddinas, ac nid oedd bwyd i'r werin.

7. Yna bylchwyd y muriau, a ffodd yr holl ryfelwyr allan o'r ddinas yn y nos drwy'r porth rhwng y ddau fur, gerllaw gardd y brenin, er bod y Caldeaid o amgylch y ddinas. Aethant i gyfeiriad yr Araba.

8. Aeth llu'r Caldeaid i ymlid y brenin, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho, a'i holl lu ar wasgar oddi wrtho.

9. Daliwyd y brenin, a'i ddwyn o flaen brenin Babilon yn Ribla, yng ngwlad Hamath; a barnwyd ei achos ef.

10. Lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid; lladdodd hefyd holl benaethiaid Jwda yn Ribla.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 52